Mae Garddio a Mwy yn cynnal cystadleuaeth 'Gerddi Gorau Cymru' yn ystod y gyfres eleni ac yn chwilio i roi sylw i erddi bach a mawr ar hyd a lled y wlad. Mae yna bedwar categori, sef; Gardd Flodau, Gardd Lysiau, Gardd Ysgol a Garddwr Ifanc.
Gallwch gystadlu eich hun neu hyd yn oed enwebu gardd rhywun arall. Yr oll sydd angen ei wneud ydi llenwi'r ffurflen ddigidol isod a gyrru lluniau/fideo o'ch gerddi draw atom. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth eich llafur. Pob lwc!