O fyd clasurol i fyd pop - pwy yw eich arwr cerddorol chi?
Oes ganddoch CHI dalent canu cudd ac yn breuddwydio am y cyfle i gyd-ganu gyda canwr arbennig? Neu am enwebu rhywun drwy roi sypreis i ffrind, aelod o’r teulu i gael profiad bythgofiadwy?
Ond nid dim ond unigolion sy’n gallu cael y cyfle unigryw yma. Eleni mae modd i deulu, grŵp o ffrindiau, aelodau o’r un côr neu gymdeithas gymryd rhan!
Bydd Rhys Meirion yn gwireddu breuddwydion mewn cyfres arall o - ‘Canu Gyda y Arwr’ gan roi cyfle unigryw i unigolion neu grwpiau lwcus o bob cwr o Gymru – o 10 oed i 110 – i ganu efo’i arwr cerddorol nhw.
Os oes rheswm gwerth chweil eich bod chi, neu rhywun rydych yn ei nabod, yn haeddu y cyfle i gyd-ganu gyda’u arwr, llenwch yr holiadur byr. Os am enwebu eich hunain, uwch-lwythwch fidio ohonoch yn canu cân gan yr arwr trwy ddilyn y linc isod. (Nid oes angen i chi ffilmio person rydych yn ei enwebu)
Os oes gennych unrhyw gwestiwn anfonwch neges at canu@cwmnida.tv neu ffonio 07483904452.
Dyddiad cau: Mehefin 30, 2021
Rhaid bod yn 10 oed a drosodd i ymgeisio a rhaid cael rhiant/warchodwr i lenwi y ffurflen os o dan 16 oed.
Who is your favourite Welsh-speaking singer? If you’ve ever dreamt of singing with your musical idol, here’s your chance!
Rhys Meirion will be making dreams come true in another series of ‘Canu gyda fy Arwr’ (Singing with my Hero).
And this time it's not just individuals who can have this once in a lifetime opportunity. A family, a group of friends, members of the same choir or society can take part! If you are a confident Welsh speaker, to be in with a chance yourself or to nominate a friend, family member or group of people just fill in the short questionnaire and upload a short video of yourself, or the person who you’ve nominated, singing by following the link below.
Closing date: 30 June, 2021