Mae’r cogydd patisserie a’r ‘melinydd’ Richard Holt yn chwilio am lond llaw o bobyddion arbennig i ymuno ag ef ym Melin Llynon, Ynys Môn yn ei gyfres deledu newydd i S4C. Bydd y profiad unigryw hwn yn gweld nifer dethol o gogyddion addawol yn mynychu Academi Richard, lle bydd dewin y cacennau yn gosod llu o heriau pobi arallfydol ac yn rhannu rhai o'r cyfrinachau gorau a ddysgodd wrth weithio ym mwytai seren Michelin.
Awyddus i ddangos eich talent pobi?
Gofynion: Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y sioe, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, gallu siarad Cymraeg, a bod â lefel dda o brofiad / angerdd am bobi!
Os hoffech chi neu rywun rydych chi'n nabod wneud cais, anfonwch eich enw llawn, oedran, lleoliad, bio byr (dim mwy na 250 gair), llun proffil a lluniau o'ch gacennau gorau yma:
Prif ddyddiadau a lleoliadau: Cyflwynwch eich manylion cyn gynted â phosibl - y dyddiad cau fydd dydd Gwener 23 Ebrill. Bydd ffilmio’n digwydd mis Mai a Mehefin 2021 yn bennaf yn Ysgol Goginio Bodnant (Dyffryn Conwy) a Melin Llynon (Llanddeusant, Ynys Môn).