Cyfres Ddrama Hanesyddol i Bobol Ifanc
Ydych chi’n hoffi flogio, ac actio… tra’n gwisgo dillad rîli hen ffashiwn?!
Wel, dyma’ch cyfle!
Mae Cwmni Da yn chwilio am actorion ifanc rhwng 10-18 oed ar gyfer cyfres hanesyddol gyffrous newydd sbon i S4C.
Efallai y cewch chi’r siawns i ymladd bwystfilod heintus yn yr Oesoedd Canol,
chwarae rhan ditectif ar drywydd UFOs yn yr 1970au, neu berfformio battle raps yn Llys Tywysog Powys… a phopeth fel petae’n cael ei flogio gennych chi; jysd fel YouTube neu TikTok!
Yn gyntaf, bydd gofyn i chi ffilmio eich hunain yn perfformio un o’r darnau o
sgript, a’i ddanfon i mewn atom ni. Dewisiwch gymeriad o’r sgriptiau isod yn seiliedig ar eich acen naturiol.
Byddwn ninnau wedyn yn dewis ymgeiswyr ac yn cysylltu i drefnu clyweliad
pellach.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn anfonwch neges at Elin – elin.tomos@cwmnida.tv
Dyddiad cau: 14 Mai