Mae Cwmni Da yn chwilio am bobl ifanc i actio mewn drama heriol, newydd ar gyfer S4C. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb rhwng 17-20 ar gyfer y prosiect cyffrous yma. Bydd rhaid i chi fod ar gael i ffilmio Gorffennaf ac Awst 2021.
Byddwn yn creu rhestr fer o'r ymgeiswyr ac yn eich gwahodd am glyweliadau pellach. Does dim rhaid cael profiad actio blaenorol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Mehefin 18fed, 2021 (5pm)
Beth yw Persona?
Cyfres ddrama 6 x 15 munud i bobl ifanc wedi ei lleoli yn ardal Dyffryn Nantlle. Mae Katie’n glyfar, yn ffraeth ond mae hi’n unig. Dyw hi ddim yn rhan o’r criw. Mae hi eisiau ffrind sy’n ei derbyn, rhywun i wrando arni a’i deall. Mae Katie dan straen adref a’i brawd Dan fawr o help. Mae’n well ganddo fo syrffio na rhedeg eu parc carafanau. Pan mae Anna’n cyrraedd caiff Katie ei hudo gan y dieithryn yma ac mae cyfeillgarwch yn blaguro. Tydi Katie ddim isio colli ei gafael ar y ferch enigmatig, wahanol hon sy’n ei deall. Nid Katie’n unig sydd â’i bryd ar Anna ond does dim bwriad ganddi i’w rhannu. Ond pwy yw Anna?
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ac uwchlwythwch fideo yn cyflwyno eich hun mewn ffordd greadigol (tua munud o hyd)
Cwmni Da is looking for young people to act in a new Welsh-language series for S4C. This exciting project welcomes applications from everyone between 17 and 20 years old. Persona is a drama series about young people in the Dyffryn Nantlle area. Katie’s clever, witty but lonely. She’s not part of the crowd and longs for a friend who accepts her, a friend who listens and gets her. Katie’s under pressure at home and her brother is useless. He’d rather be surfing than helping her run their family caravan park. When Anna arrives, Katie’s charmed by this enigmatic stranger and a friendship blossoms. Katie wants to hang on to this new friend who understands her. She’s not the only one interested in Anna. How far will she go to keep her as a friend? But is Anna who she seems?
How do I apply?
Fill in the form and upload a video introducing yourself in a creative way (approximately a minute long) You will need to be available to film between July and August 2021.
We will create a short list of all the applicants and invite them to further interviews. No previous acting experience necessary.
Closing date for applications: June 18th, 2021(5pm)